Mae Estyn a Dysgu yn trefnu cynhadledd undydd ym mis Chwefror 2027 i arweinwyr canol mewn ysgolion a lleoliadau ledled Cymru. Nod y gynhadledd yw cefnogi gweithwyr proffesiynol addysg sydd â diddordeb mewn codi safonau darllen a sbarduno gwelliannau ar lefel ysgol gyfan.

Bydd y gynhadledd yn agored i’r ysgolion a gynhelir a’r UCDau (Cynradd, Uwchradd, Pob oed, Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion)

Diben y neges hon yw sicrhau bod pob pennaeth ac athro mewn gofal yn ymwybodol o’r cyfle hwn sydd ar ddod a chasglu manylion cyswllt cywir cyn i Estyn/Dysgu ddosbarthu’r gwahoddiad yn nhymor yr hydref eleni.

Byddwn yn rhannu’r gwahoddiad â phenaethiaid/athrawon mewn gofal ac yn gofyn i bob lleoliad enwebu dau gyswllt priodol i’w cofrestru. Rydym yn deall, mewn ysgolion bach, y gallai hwn fod yn uwch arweinydd, ond mae’r gynhadledd wedi’i bwriadu’n bennaf ar gyfer arweinwyr canol sy’n gyfrifol am lythrennedd ar draws y lleoliad. 

Isod, mae dolen i’r ffurflen ar-lein i ddarparu eich manylion cyswllt. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech lenwi’r ffurflen hon cyn dydd Gwner 17 Gorffennaf, er mwyn sicrhau bod eich cydweithwyr yn cael cyfle i ymuno â’r digwyddiad pwysig hwn.