Rydym yn ymwybodol y gallai’r arweinwyr llythrennedd fod hefyd yn uwch-arweinwyr mewn ysgolion llai, ond bwriedir y gynhadledd yn bennaf at arweinwyr canol sydd â chyfrifoldeb am lythrennedd ar draws y lleoliad.
Bydd y sesiwn foreol yn gyfuniad o’r Saesneg a’r Gymraeg. Bydd cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael. Cynigir yr holl sesiynau trafod yn y Saesneg ac yn y Gymraeg a bydd modd i’r mynychwyr nodi eu dewis iaith yn ystod y broses gofrestru.
Ar ôl y gynhadledd, edrychwch ar y wefan hon gan y bydd y dudalen adnoddau’n cael ei diweddaru gyda chyflwyniadau, deunyddiau ategol, canllawiau ac adnoddau eraill sy'n ymwneud â'r gynhadledd.
Bydd rhannau o'r gynhadledd yn cael eu recordio er mwyn rhannu clipiau ar wefan Estyn a/neu Dysgu ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Dyma’r unig dro y cynhelir y gynhadledd hon ar gyfer ysgolion ac Unedau Darpariaeth Addysg Arbennig (PRUs) ledled Cymru.
Bydd cyfleoedd i rwydweithio yn ystod yr egwyl ac amser cinio.
Gofynnir i ysgolion ac Unedau Darpariaeth Addysg Arbennig (PRUs) gofrestru dim mwy na dau gynrychiolydd o bob lleoliad. Yn ddelfrydol, byddai'r rhain yn arweinwyr canol sydd â chyfrifoldeb am lythrennedd ar draws y lleoliad neu'n arweinwyr llythrennedd.
Rhaid dewis gweithdai wrth gofrestru. Er mwyn rheoli'r galw, gofynnwn i chi nodi eich dewis cyntaf ac ail ddewis ar gyfer sesiynau 1 a 2 ar y ffurflen gofrestru. Caiff lle ei ddyrannu i chi yn seiliedig ar argaeledd.
Os na allwch fynychu mwyach, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall. Anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at: cynhadleddestyndysgu@cazbah.cymru
Anfonwch e-bost at cynhadleddestyndysgu@cazbah.cymru gyda manylion y person sy'n cymryd eich lle os gwelwch yn dda. Rhowch wybod hefyd beth yw eu dewis iaith ac a oes ganddynt unrhyw anghenion dietegol neu anghenion mynediad, ynghyd â chyfeiriad e-bost cyswllt os gwelwch yn dda.
Cyfeiriadau ffordd:
Gyrru o gyfeiriad y Dwyrain:
Gyrru o'r dwyrain Gadewch yr M4 ar gyffordd 33. Cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan tuag at yr A4232 at Benarth. Wedi oddeutu 6 milltir, ewch i'r chwith a gadewch yr A4232, gan ddilyn arwyddion tuag at Stadiwm Dinas Caerdydd. Cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan tuag at Heol Lecwydd (B4267 at Ganol y Ddinas). Mae Stadiwm Dinas Caerdydd ar y dde.
Gyrru o'r gorllewin:
Gadewch yr M4 ar gyffordd 33. Cymerwch y trydydd troad ar y gylchfan tuag at yr A4232 at Benarth. Wedi oddeutu 6 milltir, ewch i'r chwith a gadewch yr A4232, gan ddilyn arwyddion tuag at Stadiwm Dinas Caerdydd. Cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan tuag at Heol Lecwydd (B4267 at Ganol y Ddinas). Mae Stadiwm Dinas Caerdydd ar y dde.
Cyfeiriadau bws:
Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn rhedeg i Stadiwm Dinas Caerdydd o Orsaf Fysiau Caerdydd Canolog. Mae bysiau rhif 1, 8, 95, X91, X1 a 95B yn stopio gerllaw, y gwasanaethau mwyaf uniongyrchol yw 1, 2, 4, 95A, 95B a 95C. Cysylltwch â Cardiff Bus am ragor o wybodaeth.
Cyfeiriadau trên:
Mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn daith dacsi ddwy filltir o hyd o orsaf drenau Caerdydd Canolog. Mae trenau’n teithio’n rheolaidd i Paddington Llundain, Reading, Swindon, Bryste, Portsmouth, Southampton, Weymouth a gorllewin Cymru, gyda chysylltiadau rhwydd i'r rhan fwyaf o ardaloedd y DU. Cysylltwch â National Rail am ragor o wybodaeth.
Mae digonedd o lefydd parcio rhad ac am ddim yn y lleoliad
Mae'r lleoliad yn gwbl hygyrch. Nodwch unrhyw anghenion hygyrchedd ar eich ffurflen gofrestru os gwelwch yn dda fel y gallwn sicrhau ein bod yn diwallu eich anghenion yn briodol ac yn sicrhau profiad pleserus.